Sandra LouiseWILLIAMS4 Chwefror, 2026. Yn frawychus o sydyn, yng nghwmni ei theulu yn Ysbyty Maelor, Wrecsam, ac o 8 Cae Catrin, Pen-y-groes, yn 45 mlwydd oed. Merch addfwyn Iorwerth a Gillian, chwaer Terry, Pauline, Tony, Jason, Wendy a'u teuluoedd, hefyd cyfaill triw i bawb gafodd y fraint o'i hadnabod.
Angladd fore Mercher, 4 Mawrth, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Calfaria, Pen-y-groes am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Carmel. Gofynnir yn garedig i alarwyr wisgo'n anffurfiol/lliwgar.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Sandra tuag at elusennau lleol. Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates