GwyndafWILLIAMS6 Mawrth, 2026. Yn sydyn, ond yn dawel yn ei gartref, 1 Tan y Cae, Bethel, yn 89 mlwydd oed. Priod annwyl y diweddar Ceris, a thad arbennig Geraint, Meirion, Helen a'r diweddar Iona; tad-yng-nghyfraith triw Janette a Stephen, taid cariadus Kelly, Leah, Gareth, Thomas, Ceirion, Jack a Cara, a hen-daid gofalus Esme, Elsa, Alba, Liana, Cerys ac Osian. Hefyd brawd, brawd-yng-nghyfraith, ewythr a chyfaill triw.
Angladd fore Mercher, 25 Mawrth, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Cysegr, Bethel am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Llanrug.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Gwyndaf tuag at Apêl Ambiwlans Awyr Cymru. Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Gwyndaf