Cemlyn VaughanWILLIAMS16 Mawrth, 2026.
Yn dawel yng nghwmni ei deulu yn Ysbyty Gwynedd, ac o Pennant, 7 Rathbone Terrace, Groeslon, yn 79 mlwydd oed.
Priod annwyl Glenys a thad amhrisiadwy Ellen a'i chymar Gavin, a'r diweddar Sioned; taid gofalgar Erin, Owain a Loti Swyn, a brawd-yng-nghyfraith, ewythr a chyfaill triw i lawer.
Angladd fore Mercher, 1 Ebrill, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Calfaria, Pen-y-groes am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn yn breifat ar lan y bedd ym Mynwent Brynrodyn, Groeslon.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Cemlyn tuag at elusennau lleol.
Ymholiadau i Roberts & Owen, Birmingham House, Pen-y-groes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates