Robert AlunWILLIAMSGlyn Eifion, Carmel.
Hunodd yn dawel yn ei gartref ar 26 Mehefin, 2026 yn 97 mlwydd oed.
Gŵr gofalgar ac annwyl y diweddar Annwen, a thad tyner a chariadus Alun, Delyth a Margaret; tad-yng-nghyfraith hoff Brenda, Trevor a Hywel, taid balch Tomos, Lora, Megan, Marged a Morgan, brawd triw y diweddar Maggie, Katie a Gwilym, ewythr hoffus a ffrind i lawer. Bydd hiraeth mawr ar ei ôl.
Angladd brynhawn Iau, 16 Gorffennaf, 2026. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Calfaria, Pen-y-groes am 1.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Carmel.
Derbynnir blodau yn ddiolchgar er cof am Robin, neu roddion, pe dymunir, tuag at elusennau ac achosion lleol trwy law Roberts & Owen, Birmingham House, Penygroes. LL54 6PL. 01286 881280.
Keep me informed of updates