WilliamsWINDSORDymuna Nancy, Mervyn, Carol ac Ian, teulu y diweddar Windsor Williams, 10 Rhes Marian, Deiniolen ddatgan eu diolch am bob arwydd o gydymdeimlad a ddangoswyd iddynt un eu profedigaeth o golli priod, tad, taid a hen daid arbennig iawn. Diolch i'r Parchedig Olaf Davies a'r Parchedig William J. Lewis am eu gwasanaeth ar ddiwrnod yr angladd ac i Dr. W. Munro am ei wasanaeth wrth yr organ. Diolch hefyd i Gwynfor Jones o E. W. Pritchard, Llanberis yr ymgymerwyr am trefniadau trylwyr a theimladwy. Diolch am yr ymweliadau, y llu cardiau, llythyrau, galwadau ffon a'r rhoddion ariannol hael a drosglwyddir rhwng Meddygfa Deiniolen a Thy Gobaith, Conwy, er cof am un arbennig.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Williams