John WynfordRICHARDSYn dawel yn ei gartref Glangraig Fach, Llan- grannog ar nos Wener Medi 25, 2015 yn dilyn salwch a ddioddefodd yn urddasol ac yn ddewr, hunodd Wynford yn 66 mlwydd oed; peiriannydd 'BT' wedi ymddeol ac yn enedigol o bentref Brongest; cymar a ffrind didwyll Wendy, tad annwyl a chefnogol Martin a'i gymar Bethan, tadcu hoffus ac arbennig Samuel a Daniel. Gwasanaeth angladdol cyhoeddus yng Nghapel Salem, Brongest ar ddydd Iau Hydref 1, 2015 am 12 o'r gloch ac yna i ddilyn gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Parc Gwyn, Arberth am 3.15 o'r gloch. Dim blodau ond derbynnir cyfraniadau er cof os dymunir tuag at 'Marie Curie' trwy law Maldwyn Lewis, Ymgymerwr Angladdau, Afallon, Penrhiw-pal, Llandysul, Ceredigion, SA44 5QH Ffon. 01239 851 005
Keep me informed of updates